Mae Siarad i Greu, Creu i Siarad yn brosiect i ddod a chymuned at ei gilydd, drwy weithdai creadigol, siarad, edrych ac ymchwilio ein cynefin lleol.
Cafodd ei gynnal mewn hen eglwys yn Rhosrobin sydd bellach yn ofod creadigol lle gall artistiaid lleol rentu ystafelloedd.
Yn ôl Paul Eastwood, sy’n rhedeg y gweithdy, “Dyma gyfle i fi ymuno efo’r gymuned, rhannu fy mhrofiadau, rhannu fy ngobaith a chreadigrwydd gyda’r gymuned a thrio cael rhywbeth nôl. Dwi’n dod o deulu di-Gymraeg, a beth dwi’n hoffi efo’r cyfle ‘ma yw cyfnod i dDefnyddio Cymraeg. Dwi’n gallu mynd misoedd heb siarad yr iaith, felly dwi wedi creu swydd i fy hun, jyst i gallu siarad Cymraeg. Dwi eisiau cario ymlaen ar ôl hyn, edrych ar y niferoedd heddiw, mae’n amlwg bod pobl eisiau gwneud hyn”
Dywedodd Sara Erddig, bardd lleol, “Dwi’n un o’r artistiaid yma, mae gen i ystafell fyny grisiau. Dwi’n wrth fy modd efo’r sesiwn yma achos dwi’n hoffi siarad Cymraeg, dwi’n hoffi neud pethau creadigol. Dwi’n meddwl mae o’n bwysig iawn yn enwedig ar ôl y pandemig bod ni’n cael dod allan o’n tai ni, dod at ein gilydd, cyfeillgarwch, mae’n dda i iechyd meddwl i bobl gweld ei gilydd a cael siarad.”
Mae’r ddisgyblaeth artistig yn newid o wythnos i wythnos, gweithio efo athro gwadd fel y crochenydd Erin Lloyd.
Yn ôl Ceri Ellet, swyddog datblygu cymunedol ar gyfer Menter Iaith Fflint a Wrecsam, sy’n helpu i rhedeg y prosiect,
“Dwi’n hoffi crefft a bo’ ni yma i gefnogi gyda’r iaith Gymraeg. Dan ni’n gwneud cymaint y gallai ni. Tîm bach ydan ni sy’n gweithio yn yr ardal Fflint a Wrecsam i drio hyrwyddo a hwyluso digwyddiadau Cymraeg.”
Nes i mynychu y sesiwn ddiweddaraf a oedd yn delio gyda chlai. Ges i gyfle i ofyn i bobl pam fod prosiectau fel hyn mor bwysig.
Dywed Sharon, athrawes o Penarlâg, “Dwi’n yma heddiw achos dwi eisiau ymarfer fy Nghymraeg efo fy mhlant, achos mae fy mab yn mynd i’r ysgol Gymraeg fel trochwr. Dwi’n caru siarad yn Gymraeg a dwi eisiau bod yn rhugl.”
Dywed Kelly, rheolwr polisi efo elusennau bach dros Cymru, “Dwi’n caru Cymraeg, dwi’n hoffi celf a gweithgareddau fel hwn yn y gymuned.”
Mae’r gweithdai am ddim ac mae pedwar ar ôl. Os hoffech archebu lle cysylltwch â Paul gyda’r cyfeiriad e-bost siaradigreu@gmail.com